5 Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.
6 Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr ARGLWYDD oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman.
7 Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.
8 Dyma nhw'n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p'run ai oedden nhw'n athrawon neu'n ddisgyblion.