11 Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri.
12 Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml.
13 Dyma'r coelbren yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedden nhw'n gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried.
14 A dyma sut y cawson nhw eu dewis:Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia;giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth);
15 giât y de i Obed-edom (ei feibion e oedd yn gyfrifol am y stordai);
16 yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa.Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal.
17 Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a pedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai.