14 A dyma sut y cawson nhw eu dewis:Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia;giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth);
15 giât y de i Obed-edom (ei feibion e oedd yn gyfrifol am y stordai);
16 yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa.Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal.
17 Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a pedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai.
18 Wedyn wrth yr iard i'r gorllewin roedd pedwar ar ddyletswydd ar y ffordd a dau yn yr iard.
19 (Y rhain oedd y grwpiau o ofalwyr oedd yn ddisgynyddion i Cora a Merari.)
20 Rhai o'r Lefiaid oedd hefyd yn gyfrifol am stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion yn cael eu cadw.