2 Meibion Meshelemeia: Sechareia, yr hynaf, wedyn Iediael, Sebadeia, Iathniel,
3 Elam, Iehochanan, ac Eliehoenai.
4 Yna meibion Obed-Edom: Shemaia, yr hynaf, wedyn Iehosafad, Ioach, Sachar, Nethanel,
5 Ammiel, Issachar, a Pewlthai. (Roedd Duw wedi bendithio Obed-Edom yn fawr.)
6 Roedd gan ei fab Shemaia feibion hefyd. Roedden nhw'n benaethiaid eu teuluoedd, ac yn cael eu parchu'n fawr.
7 Meibion Shemaia oedd: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad. Roedd ei berthnasau, Elihw a Semacheia, yn cael eu parchu'n fawr hefyd.
8 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom.