23 Wedyn dyma'r arweinwyr oedd yn ddisgynyddion i Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel:
24 Shefwel, un o ddisgynyddion Gershom fab Moses, oedd arolygwr y stordai.
25 Roedd ei berthnasau drwy Elieser yn cynnwys: Rechabeia ei fab, wedyn Ishaeia ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Joram, Sichri i Shlomith.
26 Shlomoth a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am yr holl stordai lle roedd y pethau oedd wedi eu cysegru gan y Brenin Dafydd yn cael eu cadw. (A pethau wedi eu cysegru gan benaethiaid teuluoedd oedd yn gapteiniaid unedau o fil ac o gant, a swyddogion eraill y fyddin.
27 Roedden nhw wedi cysegru peth o'r ysbail gafodd ei gasglu, a'i gyfrannu tuag at gynnal a chadw teml yr ARGLWYDD.)
28 Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am bopeth gafodd ei gysegru gan y proffwyd Samuel, Saul fab Cish, Abner fab Ner, a Joab fab Serwia. Shlomith a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am bopeth oedd wedi cael ei gysegru.
29 Roedd Cenaniahw o glan Its'har, a'i feibion, yn gyfrifol am waith tu allan i'r deml, fel swyddogion a barnwyr dros bobl Israel.