27 Roedden nhw wedi cysegru peth o'r ysbail gafodd ei gasglu, a'i gyfrannu tuag at gynnal a chadw teml yr ARGLWYDD.)
28 Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am bopeth gafodd ei gysegru gan y proffwyd Samuel, Saul fab Cish, Abner fab Ner, a Joab fab Serwia. Shlomith a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am bopeth oedd wedi cael ei gysegru.
29 Roedd Cenaniahw o glan Its'har, a'i feibion, yn gyfrifol am waith tu allan i'r deml, fel swyddogion a barnwyr dros bobl Israel.
30 Wedyn cafodd Chashafeia o glan Hebron a'i berthnasau (1,700 o ddynion abl) gyfrifoldebau yn Israel i'r gorllewin o'r Iorddonen. Roedden nhw'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin.
31 Wedyn Ierïa oedd pennaeth clan Hebron yn ôl y cofrestrau teuluol. (Pan oedd Dafydd wedi bod yn frenin am bedwar deg o flynyddoedd, dyma nhw'n chwilio drwy'r cofrestrau, a darganfod fod dynion abl o glan Hebron yn byw yn Iaser yn Gilead.)
32 Roedd gan Ierïa 2,700 o berthnasau oedd yn benaethiaid teuluoedd. A dyma'r Brenin Dafydd yn rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw dros lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse. Roedden nhw hefyd yn gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin.