6 Roedd gan ei fab Shemaia feibion hefyd. Roedden nhw'n benaethiaid eu teuluoedd, ac yn cael eu parchu'n fawr.
7 Meibion Shemaia oedd: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad. Roedd ei berthnasau, Elihw a Semacheia, yn cael eu parchu'n fawr hefyd.
8 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom.
9 Roedd gan Meshelemeia feibion a perthnasau uchel eu parch – un deg wyth i gyd.
10 Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf – ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo).
11 Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri.
12 Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml.