26 Esri fab Celwb yn gyfrifol am y gweithwyr amaethyddol;
27 Shimei o Rama yn gyfrifol am y gwinllannoedd;Sabdi o Sheffam yn gyfrifol am y gwin oedd yn cael ei storio yn y gwinllannoedd;
28 Baal-chanan o Geder yn gyfrifol am y coed olewydd a'r coed sycamorwydd ar yr iseldir;Ioash oedd yn gyfrifol am y stordai i gadw olew olewydd;
29 Sitrai o Saron oedd yn gyfrifol am y gwartheg oedd yn pori yn Saron;Shaffat fab Adlai oedd yn gyfrifol am y gwartheg yn y dyffrynnoedd.
30 Obil yr Ismaeliad yn gyfrifol am y camelod;Iechdeia o Meronoth yn gyfrifol am yr asennod;
31 Iasis yr Hageriad yn gyfrifol am y defaid a'r geifr.Roedd pob un o'r rhain yn swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo y brenin Dafydd.
32 Roedd Jonathan, ewythr Dafydd, yn strategydd doeth ac yn ysgrifennydd;Iechiel fab Hachmoni yn gofalu am feibion y brenin;