1 Dyma Dafydd yn galw swyddogion Israel i gyd at ei gilydd i Jerwsalem – arweinwyr y llwythau, swyddogion unedau'r fyddin, capteiniaid unedau o fil ac o gant, y swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo ac anifeiliaid y brenin a'i feibion, swyddogion y palas, y milwyr, a'r arwyr milwrol i gyd.
2 Dyma'r Brenin Dafydd yn codi ar ei draed a dweud: “Fy mrodyr a'm pobl, gwrandwch. Roeddwn i wir eisiau adeiladu teml lle gellid gosod Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD fel stôl droed i'n Duw. Dw i wedi gwneud y paratoadau ar gyfer ei hadeiladu.
3 Ond dyma Duw yn dweud wrtho i, ‘Gei di ddim adeiladu teml i'm hanrhydeddu i, am dy fod ti'n ryfelwr, ac wedi lladd lot o bobl.’
4 “Yr ARGLWYDD, Duw Israel, ddewisodd fi o deulu fy nhad i fod yn frenin ar Israel am byth. Roedd wedi dewis llwyth Jwda i arwain, a teulu fy nhad o fewn Jwda, ac yna dewisodd fi o blith fy mrodyr, a'm gwneud i yn frenin ar Israel gyfan.
5 Ac o'r holl feibion mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi, mae wedi dewis Solomon i fod yn frenin ar fy ôl, i deyrnasu ar ei ran.