14 Rhoddodd iddo restr o faint yn union o aur ac arian oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y gwahanol eitemau a llestri fyddai'n cael eu defnyddio yn yr addoliad –
15 y menora aur a'r lampau oedd arni, y rhai arian a'r lampau oedd arnyn nhw (roedd pob manylyn yn cael ei bwyso);
16 yr aur ar gyfer y byrddau lle roedd y bara'n cael ei osod yn bentwr (faint o aur oedd i'w ddefnyddio i wneud pob un, a faint o arian oedd i'w ddefnyddio i wneud y byrddau arian);
17 a'r aur pur oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y ffyrc, y dysglau a'r jygiau, y powlenni bach aur a'r powlenni bach arian (union bwysau pob un),
18 a'r aur wedi ei buro ar gyfer gwneud allor yr arogldarth.Rhoddodd iddo'r cynllun ar gyfer sedd y ceriwbiaid aur oedd yn lledu eu hadenydd i gysgodi Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.
19 “Dw i wedi ysgrifennu'r cwbl i lawr yn fanwl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi fy arwain i,”
20 meddai Dafydd wrth Solomon. “Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na panicio! Mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi ei orffen.