11 O ARGLWYDD, ti ydy'r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy'n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a'r ddaear! Ti ydy'r un sy'n ben ar y cwbl i gyd!
12 Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy'n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw'n enwog.
13 Diolch i ti ein Duw! Dŷn ni'n moli dy enw bendigedig di!
14 “Ond pwy ydw i, a pwy ydy fy mhobl i, ein bod ni'n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd piau ti.
15 O dy flaen di, dŷn ni fel ffoaduriaid yn crwydro, fel ein hynafiaid. Mae'n hamser ni ar y ddaear yma yn pasio heibio fel cysgod. Does dim byd sicr amdano.
16 O ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni wedi casglu'r holl gyfoeth yma i adeiladu teml i ti a dy anrhydeddu di, ond ti sydd wedi ei roi e i gyd mewn gwirionedd; ti sydd piau'r cwbl.
17 Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen.