14 “Ond pwy ydw i, a pwy ydy fy mhobl i, ein bod ni'n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd piau ti.
15 O dy flaen di, dŷn ni fel ffoaduriaid yn crwydro, fel ein hynafiaid. Mae'n hamser ni ar y ddaear yma yn pasio heibio fel cysgod. Does dim byd sicr amdano.
16 O ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni wedi casglu'r holl gyfoeth yma i adeiladu teml i ti a dy anrhydeddu di, ond ti sydd wedi ei roi e i gyd mewn gwirionedd; ti sydd piau'r cwbl.
17 Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen.
18 O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, Abraham, Isaac ac Israel, gwna i dy bobl bob amser fod eisiau gwneud beth ti'n ddweud. Gwna nhw'n hollol ffyddlon i ti.
19 A gwna fy mab Solomon yn awyddus i ufuddhau i dy orchmynion, rheolau a gofynion, a gorffen adeiladu y deml yma dw i wedi gwneud y paratoadau ar ei chyfer.”
20 Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma'r gynulleidfa gyfan yn moli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw'n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a'r brenin.