17 Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen.
18 O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, Abraham, Isaac ac Israel, gwna i dy bobl bob amser fod eisiau gwneud beth ti'n ddweud. Gwna nhw'n hollol ffyddlon i ti.
19 A gwna fy mab Solomon yn awyddus i ufuddhau i dy orchmynion, rheolau a gofynion, a gorffen adeiladu y deml yma dw i wedi gwneud y paratoadau ar ei chyfer.”
20 Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma'r gynulleidfa gyfan yn moli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw'n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a'r brenin.
21 Y diwrnod wedyn dyma nhw'n aberthu anifeiliaid a chyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD (mil o deirw, mil o hyrddod, a mil o ŵyn). Hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda nhw, a llawer iawn o aberthau eraill dros bobl Israel i gyd.
22 Roedden nhw'n dathlu ac yn gwledda o flaen yr ARGLWYDD.Yna dyma nhw'n gwneud Solomon, mab Dafydd, yn frenin. Dyma nhw'n ei eneinio'n frenin, ac yn eneinio Sadoc yn offeiriad.
23 Dyma Solomon yn eistedd ar orsedd yr ARGLWYDD yn lle ei dad Dafydd. Roedd yn frenin llwyddiannus iawn, ac roedd pobl Israel i gyd yn ffyddlon iddo.