2 Dw i wedi gwneud fy ngorau glas i ddarparu popeth sydd ei angen i wneud y gwaith – aur, arian, pres, haearn a coed, heb sôn am lot fawr o feini gwerthfawr, fel onics (a morter glas i'w gosod nhw a'r meini eraill), gemau gwerthfawr o bob math, a marmor.
3 Ond dw i hefyd am gyfrannu fy holl drysorau personol tuag at y gwaith, am fod teml Dduw mor bwysig yn fy ngolwg i. Bydd hyn yn ychwanegol at bopeth arall dw i wedi ei ddarparu ar gyfer y gwaith.
4 Mae'n cynnwys mwy na 100 tunnell o aur Offir a dros 250 tunnell o arian coeth, i orchuddio waliau'r adeilad,
5 a'r gwaith arall sydd i'w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?”
6 Dyma benaethiaid y teuluoedd, arweinwyr y llwythau, capteiniaid yr unedau o fil ac o gant, a'r swyddogion oedd yn arolygu gwaith y brenin yn cyfrannu at y gwaith.
7 Dyma gafodd ei roi ganddyn nhw: dros 180 tunnell o aur, 10,000 o ddarnau aur, 375 tunnell o arian, a 3,750 tunnell o haearn.
8 Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yrARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon.