4 Mae'n cynnwys mwy na 100 tunnell o aur Offir a dros 250 tunnell o arian coeth, i orchuddio waliau'r adeilad,
5 a'r gwaith arall sydd i'w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?”
6 Dyma benaethiaid y teuluoedd, arweinwyr y llwythau, capteiniaid yr unedau o fil ac o gant, a'r swyddogion oedd yn arolygu gwaith y brenin yn cyfrannu at y gwaith.
7 Dyma gafodd ei roi ganddyn nhw: dros 180 tunnell o aur, 10,000 o ddarnau aur, 375 tunnell o arian, a 3,750 tunnell o haearn.
8 Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yrARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon.
9 Roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi ei gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi. Roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd.
10 Dyma Dafydd yn moli'r ARGLWYDD o flaen y gynulleidfa gyfan: “O ARGLWYDD, Duw ein tad Israel, rwyt ti'n haeddu dy fendithio am byth bythoedd!