10 Gweddïodd Jabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi.
11 Celwb oedd brawd Shwcha a tad Mechir, a Mechir oedd tad Eshton.
12 Eshton oedd tad Bethraffa, Paseach a Techinna (tad Ir-nachash). Dyma bobl Recha.
13 Meibion Cenas:Othniel a Seraia.Meibion Othniel:Chathath a Meonothai.
14 Meonothai oedd tad Offra.Seraia oedd tad Joab, hynafiad y bobl sy'n byw yn Ge-charashîm (sy'n cael yr enw am eu bod nhw yn grefftwyr).
15 Meibion Caleb fab Jeffwnne:Irw, Ela, a Naäm.Mab Ela:Cenas.
16 Meibion Jehalel-el:Siff, Siffa, Tireia, ac Asarel.