2 Roedd Reaia fab Shofal yn dad i Iachath. Yna Iachath oedd tad Achwmai a Lahad. Y rhain oedd teuluoedd y Soriaid.
3 Dyma feibion Etam:Jesreel, Ishma ac Idbash: ac enw eu chwaer nhw oedd Hatselelponi.
4 Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Chwsha. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i Hur, mab hynaf Effrath a hynafiad pobl Bethlehem.
5 Roedd gan Ashchwr, tad Tecoa, ddwy wraig, sef Chela a Naära:
6 Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära.
7 Meibion Chela oedd Sereth, Sochar, Ethnan
8 a Cots (tad Anwf a Hatsobeba), a hefyd hynafiad teuluoedd Achar-chel fab Harwm.