21 Meibion Shela fab Jwda:Er (tad Lecha), Lada (tad Maresha), teuluoedd y gweithwyr lliain main yn Beth-ashbea,
22 Iocim, dynion Cosefa, Joash a Saraff – y ddau yn arweinwyr yn Moab a Iashwfi Lechem. (Mae'r hanesion yma yn dod o archifau hynafol.)
23 Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin.
24 Disgynyddion Simeon:Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul,
25 wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw.
26 Disgynyddion Mishma:Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr.
27 Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.