23 Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin.
24 Disgynyddion Simeon:Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul,
25 wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw.
26 Disgynyddion Mishma:Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr.
27 Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.
28 Roedden nhw'n byw yn Beersheba, Molada, Chatsar-shwal,
29 Bilha, Etsem, Tolad,