4 Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Chwsha. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i Hur, mab hynaf Effrath a hynafiad pobl Bethlehem.
5 Roedd gan Ashchwr, tad Tecoa, ddwy wraig, sef Chela a Naära:
6 Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära.
7 Meibion Chela oedd Sereth, Sochar, Ethnan
8 a Cots (tad Anwf a Hatsobeba), a hefyd hynafiad teuluoedd Achar-chel fab Harwm.
9 Roedd Jabets yn cael ei barchu fwy na'i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Jabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.)
10 Gweddïodd Jabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi.