10 A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi ei hadeiladu yn Jerwsalem.
11 Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf.
12 Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm.
13 Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia,
14 Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac.
15 Cafodd Iehotsadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth yr ARGLWYDD ddefnyddio Nebwchadnesar i gymryd pobl Jwda a Jerwsalem i'r gaethglud.
16 Meibion Lefi:Gershom, Cohath, a Merari.