27 Eliab, Ierocham, a'i fab e Elcana.
28 Meibion Samuel:Joel, y mab hynaf, ac Abeia, yr ail.
29 Disgynyddion Merari:Machli, ei fab Libni, wedyn ei fab e Shimei ac i lawr y cenedlaethau drwy Wssa,
30 Shimea, Haggia, yna Asaia.
31 Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno.
32 Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod.
33 Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:Disgynyddion Cohath:Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel,