49 Ond Aaron a'i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a'r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud yn gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
50 Dyma ddisgynyddion Aaron:Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa,
51 Bwcci, Wssi, Seracheia,
52 Meraioth, Amareia, Achitwf,
53 Sadoc, ac Achimaats.
54 A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw:Dyma'r ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan):
55 Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas.