50 Dyma ddisgynyddion Aaron:Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa,
51 Bwcci, Wssi, Seracheia,
52 Meraioth, Amareia, Achitwf,
53 Sadoc, ac Achimaats.
54 A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw:Dyma'r ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan):
55 Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas.
56 (Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.)