57 Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa,
58 Cholon, Debir,
59 Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.
60 Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
61 A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.
62 Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse
63 Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.