60 Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
61 A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.
62 Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse
63 Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.
64 Rhoddodd pobl Israel y trefi yma, a'r tir pori o'u cwmpas, i lwyth Lefi.
65 Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi eu henwi ymlaen llaw.
66 Cafodd rhai o deuluoedd disgynyddion Cohath dir o fewn tiriogaeth llwyth Effraim.