16 Dyma Maacha, gwraig Machir, yn cael mab, a'i alw yn Peresh. Roedd ganddo frawd o'r enw Sheresh, ac enw ei feibion oedd Wlam a Recem.
17 Mab Wlam:Bedan.Y rhain oedd disgynyddion Gilead, mab Machir ac ŵyr Manasse.
18 Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla.
19 Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.
20 Disgynyddion Effraim:Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,
21 Safad, i Shwtelach.(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.
22 Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)