19 Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.
20 Disgynyddion Effraim:Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,
21 Safad, i Shwtelach.(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.
22 Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)
23 Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.
24 (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.)
25 Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan,