2 Meibion Tola:Wssi, Reffaia, Ieriel, Iachmai, Ibsam a Shemwel. Nhw oedd pennau teuluoedd Tola. Roedd yna 22,600 o ddynion dewr wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol adeg Dafydd.
3 Mab Wssi:Israchïa.Meibion Israchïa:Michael, Obadeia, Joel ac Ishïa. (Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.)
4 Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant.
5 Roedd cyfanswm o 87,000 o ddynion dewr wedi eu rhestru ar gofrestrau teuluol claniau Issachar.
6 Meibion Benjamin (tri i gyd):Bela, Becher, a Iediael.
7 Meibion Bela:Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol.
8 Meibion Becher:Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher.