7 Meibion Bela:Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol.
8 Meibion Becher:Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher.
9 Roedd 20,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.
10 Mab Iediael:Bilhan.Meibion Bilhan:Iewsh, Benjamin, Ehwd, Cenaana, Seithan, Tarshish, ac Achishachar.
11 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Iediael. Roedd 17,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.
12 Roedd y Shwpiaid a'r Chwpiaid yn ddisgynyddion i Ir; a'r Chwshiaid yn ddisgynyddion i Acher.
13 Meibion Nafftali:Iachtseël, Gwni, Jeser, a Shalwm – meibion Bilha.