22 Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi eu rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi eu penodi i'w swyddi.
23 Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).
24 Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
25 Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod.
26 Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr.
27 Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore.
28 Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw.