30 (Ond dim ond offeiriaid oedd yn cael cymysgu'r perlysiau.)
31 Roedd Matitheia, un o'r Lefiaid (mab hynaf Shalwm o glan Cora) yn gyfrifol am bobi'r bara ar gyfer yr offrymau.
32 Roedd rhai o'u perthnasau, oedd yn perthyn i'r un clan, yn gyfrifol am baratoi'r bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob Saboth.
33 Roedd y cantorion oedd yn benaethiaid ar deuluoedd y Lefiaid yn aros mewn ystafelloedd, ac yn rhydd o ddyletswyddau eraill. Roedd eu gwaith nhw yn mynd yn ei flaen ddydd a nos.
34 Y rhain oedd penaethiaid teuluoedd llwyth Lefi, fel roedden nhw wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.
35 Roedd Jeiel (tad Gibeon) yn byw yn nhre Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha).
36 Abdon oedd enw ei fab hynaf, wedyn Swr, Cish, Baal, Ner, Nadab,