1 Pan oeddwn i'n dri deg oed, roeddwn i'n byw wrth Gamlas Cebar yn Babilon gyda'r bobl oedd wedi cael eu caethgludo yno o Jwda. Ar y pumed diwrnod o'r pedwerydd mis roedd fel petai'r nefoedd wedi agor, a Duw yn rhoi gweledigaethau i mi.
2 (Roedd hyn bum mlynedd ar ôl i'r brenin Jehoiachin gael ei gymryd yn gaeth i Babilon).
3 Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno!
4 Wrth i mi edrych, ron i'n gweld storm yn dod o'r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o'i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel.
5 Yna o'i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i'r golwg. Roedden nhw'n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl,
6 ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain.