Eseciel 48 BNET

Rhannu'r tir rhwng y llwythau

1 “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.

2 Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.

3 Wedyn Nafftali, i'r de o Asher.

4 Wedyn Manasse.

5 Wedyn Effraim.

6 Wedyn Reuben.

7 Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.

Y tir cysegredig yn y canol

8 “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.

9 Bydd y tir sydd wedi ei gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a tair milltir a chwarter o led.

10 Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.

11 Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid.

12 Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda tir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.

13 “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led.

14 Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi ei gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.

15 “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol.

16 Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd.

17 A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd.

18 Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a tair milltir a hanner i'r gorllewin.

19 Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas.

20 Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a tiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.

21 “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas.) Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol.

22 Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a tir amaeth y ddinas, gyda tir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.

Tir y llwythau eraill

23 “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.

24 Wedyn tir Simeon.

25 Wedyn Issachar.

26 Wedyn Sabulon.

27 Ac yn olaf Gad.

28 A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.

29 Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Giatiau Jerwsalem

30 Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd,

31 bydd tair giât wedi eu henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi.

32 Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan.

33 Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon.

34 Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali.

35 Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.”