Eseciel 21 BNET

Babilon – Cleddyf Duw

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel,

3 a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg!

4 Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd!

5 Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’

6 “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen.

7 Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’”

8 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

9 “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:Cleddyf! Cleddyf!Wedi ei hogi a'i sgleinio.

10 Wedi ei hogi i ladd,ac yn fflachio fel mellten.Pwy sy'n chwerthin nawr?Mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthoda phob ffon debyg iddi!

11 Mae'r cleddyf wedi ei rhoi i'w sgleinioa'i dal yng nghledr y llaw.Mae wedi ei hogi a'i glanhaui'w rhoi yn llaw y lladdwr.

12 Gwaedda, ddyn, galara!Mae'r cleddyf i daro fy mhobl,ac arweinwyr Israel i gyd!Bydd y galar yn llethol!

13 Ydy, mae'r profi'n dod!Pa obaith syddpan mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod?’meddai'r ARGLWYDD.

14 Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn,ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed,‘Bydd y cleddyf yn taroddwywaith … na, tair!Cleddyf i ladd!Bydd cleddyf y lladdfa fawryn closio o bob cyfeiriad!

15 Bydd pawb yn wan gan ddychryna nifer fawr yn baglu a syrthio.Mae cleddyf y lladdfa fawryn disgwyl wrth y giatiau i gyd.O! Mae'n fflachio fel melltenwrth gael ei chwifio i ladd!

16 Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith!Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn.

17 Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrna dangos faint dw i wedi gwylltio.Yr ARGLWYDD ydw i,a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”

Cleddyf brenin Babilon

18 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

19 “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas –

20 Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda.

21 Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.

22 Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae.

23 Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.

24 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.

25 “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

26 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch!

27 Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’”

Taro pobl Ammon

28 “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon:Cleddyf! Cleddyf,yn cael ei chwifio i ladd.Wedi ei sgleinio i ddifa,ac yn fflachio fel mellten.

29 “‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

30 “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni.

31 Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio.

32 Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”