Eseciel 10 BNET

Ysblander Duw yn gadael y Deml

1 Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwch ben y ceriwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi ei gwneud o saffir yn dod i'r golwg.

2 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y ceriwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.”A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor.

3 (Roedd y ceriwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.)

4 Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol.

5 Roedd sŵn adenydd y ceriwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad.

6 Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y ceriwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion.

7-8 Roedd gan y ceriwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r ceriwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan.

9 Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y ceriwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob ceriwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir.

10 Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr.

11 Pan oedd y ceriwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi.

12 Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd – wedi eu gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi eu gorchuddio â llygaid hefyd.

13 Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn "olwynion yn chwyrlïo".

14 Roedd gan bob un o'r ceriwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw, wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr.

15 A dyma'r ceriwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar.

16 Pan oedd y ceriwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw.

17 Pan oedd y ceriwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

18 A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y ceriwbiaid.

19 Ac wrth i mi edrych, dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.

20 Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Roeddwn i'n sylweddoli mai ceriwbiaid oedden nhw.

21 Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd.

22 Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â'r rhai roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw'n symud yn syth yn eu blaenau.