Eseciel 38 BNET

Y Frwydr Olaf

Gog yn offeryn yn llaw Duw

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi

2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn,

3 a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal.

4 Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel – gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tariannau mawr a bach ac yn chwifio eu cleddyfau.

5 Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi eu harfogi gyda thariannau a helmedau.

6 Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill.

7 “‘“Bydd barod – ti a phawb arall sydd gyda ti. Ti sydd i arwain.

8 Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad.

9 Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.”

10 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg.

11 “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff!

12 Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi eu casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!”

13 Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad – cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’

14 “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw.

15 Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda tyrfa enfawr – dy gafalri a dy fyddin fawr.

16 Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.

17 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw.

Duw yn cosbi Gog

18 “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân.

19 Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny.

20 Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o'm blaen i – pysgod, adar, anifeiliaid gwylltion, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a pob wal sydd wedi ei hadeiladu yn syrthio.

21 Bydda i'n galw am gleddyf i ymosod arnat ti ar fynyddoedd Israel, Gog,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd dy filwyr yn dechrau ymladd yn erbyn ei gilydd.

22 Bydda i'n barnu Gog gydag afiechydon ofnadwy, a thrais. Bydd storm yn arllwys i lawr arno fe a'i fyddin, a phawb arall sydd gyda nhw – cenllysg, tân a lafa.

23 Dw i'n mynd i godi i fyny a dangos mor wych ydw i. Bydda i'n dangos pwy ydw i i'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’