1 Dyma'r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.”
2 Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi
3 yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a'u hynafiaid hefyd.
4 Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’
5 Os byddan nhw'n gwrando neu beidio – wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.
6 “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti.
7 Dywed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd.
8 Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â tynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.”
9 A dyna pryd gwelais i law wedi ei hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl.
10 Dyma'r sgrôl yn cael ei hagor o'm blaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr – a'r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”.