1 Dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ata i, ac yn eistedd o'm blaen i.
2 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
3 “Ddyn, mae'r dynion yma wedi troi at eilunod. Maen nhw wedi rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu. Pam ddylwn i adael iddyn nhw ofyn unrhyw beth i mi?
4 Felly dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy unrhyw un yn Israel yn troi at eilunod, a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, a wedyn yn dod at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw a'i heilunod yn ei haeddu!
5 Bydda i'n gwneud hyn i'w galw nhw i gyfri, am eu bod nhw wedi pellhau oddi wrtho i a mynd ar ôl eu heilunod i gyd.’
6 “Felly dw i am i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i! Dw i eisiau i chi droi cefn ar eich eilunod, a stopio gwneud y pethau ffiaidd dych chi wedi bod yn eu gwneud.
7 Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu!
8 Bydda i'n troi yn erbyn pobl felly, ac yn eu gwneud nhw'n destun sbort. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw, ac yn eu torri nhw i ffwrdd o gymdeithas fy mhobl. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
9 “‘A pan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel.
10 Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod – y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad.
11 Wedyn fydd pobl Israel ddim yn crwydro oddi wrtho i, a llygru eu hunain drwy wrthryfela yn fy erbyn i. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
12 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
13 “Ddyn, os ydy gwlad yn pechu yn fy erbyn i drwy fod yn anffyddlon, a finnau wedyn yn eu taro nhw drwy wneud bwyd yn brin, a peri i newyn ladd pobl ac anifeiliaid,
14 hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno, fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.” Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
15 “Neu petawn i'n gadael i anifeiliaid gwylltion fynd drwy'r wlad yn lladd y plant i gyd, a bod neb yn gallu teithio drwy'r wlad am ei bod hi'n rhy beryglus.
16 Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Byddai'r wlad yn cael ei difetha'n llwyr, a fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
17 “Neu petawn i'n gadael i fyddin ymosod ar y wlad, a dweud, ‘Mae cleddyf y gelyn i gael lladd pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad i gyd!’
18 Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
19 “Neu petawn i'n anfon afiechydon ofnadwy ac yn tywallt fy llid arnyn nhw, nes bod pobl ac anifeiliaid yn marw.
20 Hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
21 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd hi'n erchyll pan fydda i'n anfon y pedwar yma i farnu Jerwsalem – cleddyf, newyn, anifeiliaid gwylltion, ac afiechydon ofnadwy – i ladd pobl ac anifeiliaid.
22 Ond creda neu beidio, bydd yna rai yn llwyddo i ddod allan yn fyw! Byddan nhw'n dod yma i Babilon atat ti. Pan fyddi di'n gweld sut maen nhw'n ymddwyn, byddi'n teimlo'n well am beth fydd wedi digwydd i Jerwsalem, a'r cwbl wnes i iddi.
23 Fyddi di ddim yn teimlo mor ddrwg am y peth pan weli beth maen nhw'n ei wneud. Byddi'n gweld fod gen i reswm da am wneud beth wnes i.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.