Eseciel 25 BNET

Negeseuon am y gwledyddMae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1-2; Eseia 13-23; Jeremeia 46-51. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.

Ammon

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw.

3 Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo.

4 Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi.

5 Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

6 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio,

7 dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

Moab a Seir

8 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall!

9 Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim.

10 Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl.

11 A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

Edom

12 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’

13 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de.

14 Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’”

Philistia

15 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau ei dinistrio hi.

16 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir.

17 Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A pan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”