Eseciel 19 BNET

Cân i alaru am Israel

1 “Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel.

2 Dywed fel hyn:‘Sut un oedd dy fam di?Onid llewes gyda'r llewod,yn gorwedd gyda'r llewod ifancac yn magu ei chenawon?

3 Magodd un o'i chenawon,a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.

4 Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,a chafodd ei ddal yn eu trap.Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachauyn gaeth i'r Aifft.

5 Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,a bod ei gobaith wedi chwalu,cymerodd un arall o'i chenawon,a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.

6 Cerddodd yng nghanol y llewod,wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.

7 Cymerodd y gweddwon iddo'i huna dinistrio'r trefi'n llwyr.Pan oedd yn rhuo,roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.

8 Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpasi ymosod arno.Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drostoa'i ddal yn eu trap;

9 rhoi coler a bachyn am ei wddf,a mynd ag e at frenin Babilon.Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carcharfel bod ei ruo i'w glywed ddim mwyar fynyddoedd Israel.

10 Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirionwedi ei phlannu ar lan y dŵr.Roedd ei changhennau yn llawn ffrwytham fod digon o ddŵr iddi.

11 Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryfi wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.Tyfodd yn uchel at y cymylau;roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.

12 Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidda'i thaflu ar lawr.Chwythodd gwynt poeth y dwyraina chrino ei changhennau ffrwythlon.Llosgodd yn y tân.

13 Bellach mae wedi ei phlannu yn yr anialwchmewn tir sych, cras.

14 Lledodd y tân o'i changen grefa'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau.Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôli wneud teyrnwialen ohoni.’Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”