Eseciel 8 BNET

Ail Weledigaeth Eseciel

Addoli Eilunod yn y Deml

1 Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r chweched mis. Roeddwn i'n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o'm blaen i. A dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i.

2 Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o'i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel.

3 Dyma fe'n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i'r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy'n wynebu'r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig.

4 A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o'm blaen i, yn union yr un fath â'r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf.

5 A dyma Duw'n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi'n edrych, a dyna ble roedd allor i'r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig.

6 “Edrych beth mae'r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o'r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!”

7 Dyma fe'n mynd â fi at fynedfa'r cyntedd. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld twll yn y wal.

8 “Torra trwy'r twll,” meddai Duw. Felly dyma fi'n gwthio drwy'r twll ac yn darganfod drws.

9 “Dos i mewn, i ti gael gweld y pethau cwbl ffiaidd maen nhw'n eu gwneud yna!” meddai Duw

10 Felly dyma fi'n mynd i mewn. Ar y waliau o'm blaen i roedd lluniau o bob math o ymlusgiaid a chreaduriaid ffiaidd eraill, a'r holl eilun-dduwiau mae pobl Israel wedi bod yn eu haddoli.

11 Dyna lle roedd saith deg o arweinwyr Israel yn sefyll o flaen y lluniau yma oedd wedi eu cerfio ar y waliau, a Jaasaneia fab Shaffan yn y canol. Roedd pob un ohonyn nhw yn dal llestr i losgi arogldarth, ac roedd mwg yr arogldarth yn yr awyr ym mhobman.

12 A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch – pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw.

13 Ond rwyt ti'n mynd i weld pethau gwaeth fyth!”

14 Dyma fe'n mynd â fi at giât y gogledd yn y deml. A dyna lle roedd merched yn mynd trwy'r ddefod o wylo ar ôl Tammws, duw ffrwythlondeb Babilon!

15 “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i. “Ond mae gwaeth i ddod eto!”

16 Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr ARGLWYDD. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi eu cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul!

17 “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i eto. “Ai peth bach ydy'r ffaith fod pobl Jwda'n gwneud y pethau ffiaidd yma? Maen nhw wedi fy ngwylltio i ddigon yn barod yn llenwi'r wlad hefo trais. A dyma nhw eto yn codi dau fys ata i!

18 Bydda i'n ymateb yn ffyrnig! Fydd yna ddim trugaredd! Cân nhw weiddi am drugaredd faint fynnan nhw, ond wna i ddim gwrando.”