16 Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr.
17 Felly pan oedden nhw'n symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi.
18 Roedd ymylon yr olwynion yn anferth, wedi eu gorchuddio gyda llygaid.
19 Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd.
20 Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd.
21 Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.
22 Uwch ben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi ei ledu fel cromen uwch eu pennau.