22 Uwch ben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi ei ledu fel cromen uwch eu pennau.
23 Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'i hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd.
24 Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i'n clywed sŵn eu hadenydd nhw – sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy'n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw'n stopio roedden nhw'n rhoi eu hadenydd i lawr.
25 Dyma nhw'n stopio, a chlywais lais yn dod o'r llwyfan oedd uwch eu pennau.
26 Uwch ben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi ei gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol.
27 O'i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o'i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o'i gwmpas.
28 Roedd mor hardd a'r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio.Dyma fi'n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi.