12 a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’”
13 Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:
15 “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi eu cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’
16 “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi eu hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'i chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’
17 “Dywed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’
18 “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma.