22 Yna dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.
23 Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas.
24 Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth.
25 Felly dyma fi'n dweud wrth y bobl yn y gaethglud am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i mi.