4 Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!”
5 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd trwy eich meddyliau chi!
6 Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’
7 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi eu taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan!
8 Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, dw i'n mynd i wneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
9 ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall.
10 Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.