8 Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, dw i'n mynd i wneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
9 ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall.
10 Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
11 Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel,
12 a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’”
13 Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi: