1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dywed wrthyn nhw,
3 ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn!
4 Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion!
5 Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.
6 Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir!