11 Dywed wrth y rhai sy'n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus,
12 a'r wal wedi syrthio, bydd pobl yn gofyn, “Beth ddigwyddodd i'ch gwaith chi?”
13 “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy.
14 Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
15 Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd –
16 sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’
17 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw,